Close

Pwy rydym yn eu rheoleiddio

​Ni yw rheoleiddiwr deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol yn y DU. Rydym yn rheoleiddio:

  • deintyddion 
  • nyrsys deintyddol
  • therapyddion deintyddol
  • hylenyddion deintyddol
  • therapyddion orthodontig
  • technegwyr deintyddol
  • technegwyr deintyddol clinigol.

Y cofrestri

Rhaid i unrhyw un sydd am weithio fel deintydd neu weithiwr gofal deintyddol proffesiynol yn y DU gofrestru gyda ni.

Rydym yn cadw cofrestri cyfredol o ddeintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol. I ymuno â'n cofrestri, rhaid i unigolion fodloni'r safonau proffesiynol a bennwyd gennym. Gallwch chwilio ein cofrestri ar y safle hwn.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob deintydd, nyrs ddeintyddol, technegydd deintyddol, hylenydd deintyddol, therapydd deintyddol, technegydd deintyddol clinigol a therapydd orthodontig sy'n darparu eich gofal deintyddol gofrestru gyda ni.

Er mwyn ymuno â'n cofrestri, mae angen i'r gweithwyr deintyddol proffesiynol hyn brofi eu bod wedi'u hyfforddi, yn gymwys ac o gymeriad da. Gallwch bori drwy ein cofrestri i weld a yw eich gweithiwr deintyddol proffesiynol wedi'i gofrestru.

Mae rhai deintyddion â hyfforddiant neu brofiad arbennig hefyd ar ein Rhestrau Arbenigol, a gallant alw eu hunain yn 'arbenigwyr'. Rhaid iddynt ddangos i ni sut maen nhw'n gymwys i ddefnyddio'r teitl hwnnw cyn y gallant ymuno â'r rhestrau hyn. Gall deintyddion eraill weithio mewn arbenigeddau penodol ym maes deintyddiaeth (er enghraifft, orthodonteg), ond ni fyddant yn cael galw eu hunain yn arbenigwyr oni bai eu bod ar y rhestrau hyn.

Tra eu bod ar ein cofrestri, rydym yn disgwyl i weithwyr deintyddol proffesiynol barhau i feithrin eu sgiliau drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.