Close

Ymdrin â'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol drwy gyfrwng y Gymraeg  

Mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) wedi ymrwymo i gynnig ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. 

Cyfathrebu ysgrifenedig

Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg, drwy lythyr neu e-bost.

Galwadau ffôn

Bydd galwadau ffôn yn cael eu cynnig yn Saesneg. Os hoffech siarad yn Gymraeg, fe gewch chi'r dewis o barhau â'r alwad yn Saesneg neu ysgrifennu atom yn Gymraeg. 

Codi pryderon a chwynion 

Gallwch godi pryder am weithiwr deintyddol proffesiynol neu wneud cwyn i ni yn Gymraeg, drwy lythyr neu e-bost, a byddwn yn eich ateb yn Gymraeg. Fodd bynnag, os yw cwynion yn fater o frys enbyd ac yn gymhleth iawn, byddwn am ddelio â'r rhain cyn gynted ac mor effeithlon â phosibl.  Felly, efallai y byddwn yn ymateb i'ch cwyn yn Saesneg neu Gymraeg i ddechrau er mwyn osgoi ymestyn y broses yn annheg ar gyfer y sawl sy'n cwyno neu'r gweithiwr deintyddol proffesiynol.

Cyfarfodydd

Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd sy'n bwriadu mynychu ein cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru siarad yn Gymraeg (gofynnwn i chi roi rhybudd ymlaen llaw fel y gallwn drefnu cyfieithydd ar y pryd).

Bydd hysbysiadau o gyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru yn ddwyieithog, ynghyd ag unrhyw agendâu neu gofnodion.

Hunaniaeth gorfforaethol

Pan fyddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg byddwn hefyd yn defnyddio fersiynau Cymraeg ein logo, hunaniaeth gorfforaethol a'n papur pennawd.

Cyhoeddiadau

Mae llawer o'n cyhoeddiadau i gleifion ac aelodau o'r cyhoedd ar gael yn Gymraeg. Bydd safonau a chanllawiau proffesiynol yn cael eu cyfieithu ar gais. 

Cynhyrchir ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon yn ddwyieithog ac maent ar gael yma

Mae'r cyhoeddiadau canlynol ar gael yn Gymraeg ar gais:

  • Taflen 'Pwy sy'n rheoleiddio gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
  • Taflen 'Mynd dramor am eich gofal deintyddol
  • ‘Ystyried gwynnu dannedd?'
  • ‘Taflen 'Cyngor i'r rhai sy'n cyflogi gweithwyr deintyddol proffesiynol

Y wasg a hysbysebu

Byddwn yn cyhoeddi datganiadau dwyieithog i'r wasg ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru lle mae hyn yn berthnasol. Darperir cyfieithiadau ar gais. Bydd hysbysebion a chyhoeddusrwydd yng Nghymru yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog, yn ogystal â hysbysebion cylchgronau a phapurau newydd.

Gwrandawiadau

Bydd modd codi pryder am berson cofrestredig yn y Gymraeg. 

Os bydd hyn yn arwain at wrandawiad, gallwch roi tystiolaeth yn Gymraeg. Pan fyddwn yn gwybod bod tyst yn dymuno darparu ei dystiolaeth yn Gymraeg, byddwn yn ei helpu i wneud hyn trwy ddefnyddio cyfieithwyr â chymwysterau addas. (Mae angen rhybudd ymlaen llaw arnom i allu gwneud hyn yn effeithiol).

Cynllun y Gymraeg

Mae ein cynllun iaith Gymraeg yn dweud sut rydym yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae hyn yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, oedd yn dweud y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal mewn busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru. 

Cyflwynwyd ein cynllun iaith Gymraeg ym mis Ionawr 2011 ac fe'i cymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sydd bellach wedi'i ddisodli gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Rydym yn monitro'r cynllun iaith Gymraeg ac yn adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd i'n Cyngor a Chomisiynydd y Gymraeg.