Close

Yr hyn a wnawn 

Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) yw rheoleiddiwr statudol y DU gyfan o tua 114,000 o aelodau’r tîm deintyddol.

Ein prif ddiben yw gwarchod diogelwch cleifion a meithrin hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau deintyddol. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cofrestru gweithwyr deintyddol proffesiynol cymwysedig, yn gosod safonau ar gyfer y tîm deintyddol, yn ymchwilio i gwynion am addasrwydd gweithwyr deintyddol proffesiynol i ymarfer, ac yn gweithio i sicrhau ansawdd addysg ddeintyddol.

Mae Deddf Deintyddion 1984 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ein gwaith. Ar hyn o bryd mae'n rhoi pwerau i ni wneud y canlynol:

  • caniatáu cofrestru ar gyfer dim ond y gweithwyr deintyddol proffesiynol hynny sy'n bodloni ein gofynion addysg a hyfforddiant, iechyd a chymeriad da. Dim ond y rhai sydd wedi cofrestru gyda ni all ymarfer deintyddiaeth yn y DU
  • gosod safonau ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant deintyddol yn y DU
  • gosod safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg ar gyfer y tîm deintyddol
  • ymchwilio i gwynion yn erbyn gweithwyr deintyddol proffesiynol a chymryd camau trwy ein proses addasrwydd i ymarfer, lle bo'n briodol
  • ei gwneud yn ofynnol i weithwyr deintyddol proffesiynol ddiweddaru eu sgiliau drwy ein gofynion datblygiad proffesiynol parhaus.

Rydym yn cael ein llywodraethu gan ein Cyngor sy'n cynnwys chwe gweithiwr deintyddol proffesiynol a chwe aelod lleyg. Y Cyngor yw corff strategol y GDC. Mae'n penderfynu ar bolisi, yn gosod cyfeiriad strategol ac yn cymeradwyo newidiadau sefydliadol allweddol. Mae'r Cyngor yn gweithio i hyrwyddo diogelwch y cyhoedd a sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn y proffesiwn deintyddol.

Y GDC a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn y GDC, rydym yn cydnabod y diffiniadau o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i olygu'r canlynol:

Cydraddoldeb: Mae gan bawb hawl i gyfle cyfartal i gyflawni eu potensial.

Amrywiaeth: Cydnabod bod pawb yn wahanol a'n bod yn gryfach o'r herwydd.

Cynhwysiant: Dileu rhwystrau i sicrhau bod gwahaniaethau'n cael eu gwerthfawrogi a bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu.

Ein gweledigaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant dros y tair blynedd nesaf (2021-2023) yw:

Bydd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn hyrwyddwr amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant o fewn ein sefydliad, gyda'r sector rydym yn ei reoleiddio, a chyda'r cyhoedd.

Byddwn yn cyflawni'r weledigaeth hon drwy gyflawni'r amcanion strategol canlynol yn effeithiol:

Sicrhau bod ein gweithgarwch rheoleiddio yn deg, yn dryloyw ac ar gael i bawb.

Sicrhau bod y cyhoedd yn gallu ymgysylltu'n effeithiol â'n gwasanaethau.

Sefydlu diwylliant cynhwysol yn y gweithle ar bob lefel yn y GDC lle mae'r holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu croesawu, eu hintegreiddio a'u cynnwys.