Close

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan eich gweithiwr deintyddol proffesiynol 

Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i ddeall beth i'w ddisgwyl gan eich gweithiwr deintyddol proffesiynol, beth i'w wneud os nad ydyn nhw'n bodloni eich disgwyliadau a pha gamau rydym yn eu cymryd i'ch amddiffyn.

Rydym yn cyhoeddi dogfennau canllaw i bob gweithiwr deintyddol proffesiynol, gan amlinellu'r safonau y mae'n rhaid cadw atynt. Gallwch ddarllen y dogfennau hyn ar ein tudalen Safonau’r Tîm Deintyddol.

Eich hawliau

Cyn cytuno i unrhyw driniaeth feddygol, dylech ofyn y cwestiynau hyn i chi'ch hun.

Ydych chi’n gwybod a fydd y driniaeth yn cael ei darparu o dan y GIG neu'n breifat?

Ydych chi'n gwybod y gost debygol? Dylai unrhyw gynllun triniaeth a gewch nodi'n glir yr hyn y dylech ddisgwyl ei dalu. Os nad oes gan y feddygfa restr brisiau, gallwch ofyn am gael gweld un.

Ydych chi'n deall beth fydd yn digwydd fel rhan o'r driniaeth? Gofynnwch am gynllun triniaeth ysgrifenedig, os yw'n ddefnyddiol i chi.

Ydy'ch deintydd wedi dweud wrthych a oes unrhyw opsiynau triniaeth eraill?

Ydych chi'n teimlo'n hyderus bod yr holl wybodaeth angenrheidiol gennych er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus?

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, mae bob amser yn well gofyn i'ch gweithiwr deintyddol proffesiynol yn gyntaf am ragor o wybodaeth.