COVID-19: canllawiau i'r cyhoedd
Os oes angen gofal deintyddol brys neu gyngor arnoch am iechyd y geg, cysylltwch â'ch practis deintyddol yn y lle cyntaf.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda phractis deintyddol, mae canllawiau'n cael eu darparu gan y GIG yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Os nad oes gennych gysylltiad rhyngrwyd, ffoniwch GIG 111.
Cael gafael ar ofal deintyddol
Dechreuodd practisau deintyddol ailagor ar gyfer gofal wyneb yn wyneb o 8 Mehefin 2020 yn Lloegr a 22 Mehefin yn yr Alban. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, fe wnaeth y rhan fwyaf o bractisau barhau ar agor yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Ers hynny, mae gwasanaethau deintyddol wedi aros ar agor ar y cyfan. Er hynny, mae sawl peth y dylai cleifion ei ystyried cyn cael gofal neu driniaeth ddeintyddol:
Blaenoriaeth eich practis deintyddol fydd sicrhau diogelwch.
Dylech barhau i ffonio neu e-bostio eich practis, yn hytrach na mynychu'n bersonol heb apwyntiad.
Efallai y bydd angen darparu rhai agweddau ar eich gofal o bell hefyd, naill ai dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Bydd eich tîm deintyddol a'ch practis yn debygol o edrych yn wahanol i'r hyn rydych wedi arfer ag ef gan y bydd rheolau cyfarpar diogelu personol, cadw pellter cymdeithasol a hylendid ar waith.
Bydd eich practis yn debygol o rannu canllawiau neu reolau gyda chi cyn eich apwyntiad. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i'ch cadw chi a'r tîm deintyddol yn ddiogel.
Gall yr ystod o driniaethau sydd ar gael fod yn wahanol hefyd, ac amrywio o bractis i bractis.
Mae rhai practisau'n debygol o weithio drwy'r rhestr hirfaith o gleifion a achoswyd gan y cyfnod clo cyntaf. Bydd hyn yn golygu y gallai gymryd mwy o amser na'r arfer i gael apwyntiad.
Hefyd, mae'n debygol na fydd practisau yn gallu gweld cymaint o gleifion dan yr un to oherwydd mesurau diogelwch COVID-19. Gall hyn gyfrannu at amseroedd aros am apwyntiadau hirach hefyd.
Brechiad
Sut mae brechlynnau'n cael eu cymeradwyo a'u monitro?
Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), fel y GDC, yn rheoleiddiwr annibynnol a sefydlwyd yn y gyfraith i ddiogelu'r cyhoedd rhag niwed gan feddyginiaethau (gan gynnwys brechlynnau) a dyfeisiau meddygol. Mae'r MHRA wedi cymeradwyo'r holl frechlynnau sy'n cael eu defnyddio yn y DU.
Mae'r MHRA yn cyhoeddi gwybodaeth am y brechlynnau y mae wedi’u cymeradwyo. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am ddiogelwch brechlynnau gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sy'n cynghori adrannau iechyd y DU ar imiwneiddio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o'r gwefannau canlynol:
Mae MHRA yn cyhoeddi cyngor newydd, cyswllt posibl rhwng Brechlyn AstraZeneca COVID-19 a cheuladau gwaed hynod brin, annhebygol
Clefyd coronafirws (COVID-19): Brechlynnau
Datganiad JCVI ar ddefnyddio brechlyn AstraZeneca COVID-19: 7 Ebrill 2021
Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn destun rheoleiddio trwyadl, hyd at reolaethau dros sypiau unigol o frechlynnau wrth iddynt gael eu cynhyrchu (lle bynnag yn y byd y digwydd hynny). Mae systemau monitro ar waith sy'n rhoi rhybuddion cyflym i'r holl weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda meddyginiaethau os bydd pryderon yn codi am feddyginiaeth benodol. Mae'r JCVI wedi darparu rhagor o wybodaeth am frechlynnau a gweithdrefnau brechu.
A fydd fy ngweithiwr deintyddol proffesiynol deintyddol yn cael ei frechu?
Fel arfer, disgwylir i weithwyr deintyddol proffesiynol gael eu brechu. Fodd bynnag, yn union fel aelodau o'r cyhoedd, mae gan rai gweithwyr deintyddol proffesiynol resymau dilys dros beidio â chael eu brechu. Pan fydd hyn yn digwydd, disgwylir i weithwyr deintyddol proffesiynol ddilyn canllawiau clinigol perthnasol i amddiffyn cleifion, eu hunain a chydweithwyr.
Sicrhau sicrwydd
ansawdd addysg a hyfforddiant deintyddol
Rydym wedi
ymrwymo i sicrhau bod ein sicrwydd ansawdd o addysg a hyfforddiant deintyddol
yn cyflawni ein prif ddiben, er mwyn amddiffyn cleifion. Mae hyn yr un mor wir
nawr er gwaethaf effaith pandemig COVID-19. Mae ein disgwyliadau a'n gofynion o
raddedigion 2021 yn parhau'r un fath, a rhaid iddyn nhw gyflawni deilliannau dysgu'r
GDC a bod yn ddechreuwyr diogel er mwyn cofrestru gyda'r GDC. Rydym wedi bod yn
gweithio'n agos gyda darparwyr addysg ac yn gwneud gwaith sicrwydd ansawdd
wedi'i dargedu i sicrhau taw dyma'r achos.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith o sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant deintyddol yn ystod pandemig COVID-19, darllenwch ein datganiad ar y cyd.