Fel claf, mae arnoch chi angen fod yn gallu ymddiried yn y gweithwyr proffesiynol hynny sy’n darparu eich gofal deintyddol. Mae angen i chi wybod eu bod yn cwrdd â safonau proffesiynol. Ac, os bydd pethau’n mynd o'u lle ac nid ydych chi’n hapus gyda’r gofal deintyddol rydych wedi’i dderbyn, mae angen i chi wybod bod rhywun sy'n gallu helpu. Mae’r dudalen hon yn esbonio beth wnawn ni yn y Cyngor Deintyddol Cyffredinol i roi’r sicrwydd am eich gofal deintyddol sydd ei hangen arnoch chi.
Ein cofrestrau
Dan y gyfraith, mae’n rhaid i bob deintydd, hylenydd deintyddol, technegydd deintyddol clinigol a therapydd orthodonteg sy’n darparu gofal deintyddol gofrestru gyda ni. I ymuno â’n cofrestrau, mae’n rhaid i’r gweithwyr deintyddol proffesiynol hyn brofi eu bod wedi'u hyfforddi ac yn gymwysedig, ac o gymeriad da. I edrych am eich gweithiwr deintyddol proffesiynol ar ein cofrestrau cliciwch ar y botwm chwiliwch ein cofrestrau ar frig y dudalen hon, neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. Bydd yn mynd yn orfodol i nyrsys deintyddol a thechnegwyr deintyddol gofrestru ar 21 Gorffennaf 2008. Dilynwch y cyswllt hwn i ddarganfod mwy am Gofrestru gweithwyr deintyddol proffesiynol.
Mae rhai deintyddion â hyfforddiant neu brofiad arbennig ar ein Rhestrau Arbenigol a chân nhw eu galw eu hunain yn 'arbenigwr'. Mae’n rhaid iddynt ddangos inni sut maen nhw’n gymwys i ddefnyddio’r teitl hwnnw cyn y gallan nhw ymuno â’r rhestrau hyn. Efallai bydd deintyddion eraill yn gweithio mewn meysydd deintyddol penodol (er enghraifft, orthodonteg) ond ni chân nhw alw eu hunain yn arbenigwr oni bai eu bod ar y rhestrau hyn. Gallwch chi ddarganfod pa ddeintyddion sy’n arbenigwyr ar ein gwefan neu drwy gysylltu â ni.
Cynnal safonau uchel
Fel gweithwyr proffesiynol mewn safle o gyfrifoldeb ac ymddiriedolaeth, disgwylir i’ch deintydd ac aelodau eraill y tîm sy’n darparu eich gofal deintyddol gynnal safon uchel o ymddygiad proffesiynol a phersonol. Byddwn ni’n gwneud hyn yn amod ar gyfer parhau i fod yn gofrestredig gyda ni.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr deintyddol:
- roi eich diddordebau yn gyntaf a gweithredu i’ch amddiffyn chi;
- parchu eich urddas a’ch dewisiadau;
- cadw’r holl wybodaeth amdanoch chi'n gyfrinachol;
- cydweithredu gydag aelodau eraill y tîm deintyddol a chyda chydweithwyr gofal iechyd eraill;
- cynnal eu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol; ac
- bod yn ddibynadwy.
Diweddaru sgiliau a gwybodaeth
Er bod dyletswydd ar bob gweithiwr proffesiynol i ddiweddaru eu sgiliau a’u gwybodaeth drwy gydol eu bywyd gweithiol, mae bellach rhaid i'ch deintydd wneud hyn dan y gyfraith. Mae’n rhaid iddyn nhw gwblhau 250 o oriau o ddatblygiad proffesiynol parhaus bob pum mlynedd er mwyn aros ar ein cofrestr. Gall hyn olygu, er enghraifft, gymryd cyrsiau gloywi ar y technegau diweddaraf ar gyfer sterileiddio offer deintyddol neu ddysgu am ddeunydd deintyddol newydd.
Eich helpu os bydd pethau’n mynd o’u lle
Mae’r rhan fwyaf o weithwyr deintyddol proffesiynol yn bobl fedrus gydwybodol y gellwch chi ymddiried ynddynt. Ond os nad ydych chi’n hapus gyda’r gofal deintyddol rydych wedi’i dderbyn, sut rydych chi’n lleisio eich pryderon?
Fel arfer awgrymwn eich bod yn ceisio datrys y broblem yn lleol yn y lle cyntaf - dylai fod gweithdrefn fewnol ar gyfer cwynion ble rydych chi’n derbyn eich triniaeth. Ar y wefan hon gallwch chi ddarganfod mwy am y gwahanol opsiynau sydd ar gael i chi, gan gynnwys sut y gallwn ni eich helpu. Os ydych chi'n meddwl bod sgiliau deintyddol, iechyd neu ymddygiad gweithiwr proffesiynol yn codi materion diogelwch staff, neu os ydyn nhw wedi methu cyrraedd y safonau a ddisgwylir ohonynt, dylech gysylltu â ni. Byddwn ni’n dweud wrthych chi a allwn ni ei archwilio neu beidio a pha gamau y gallwn ni eu cymryd. Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwn ni atal pobl rhag ymarfer, neu gyfyngu ar eu hymarfer, os bydd angen.
Eich hawliau
Cyn ichi gytuno i unrhyw driniaeth ddeintyddol, dylech chi ofyn y cwestiynau hyn i’ch hunan.
- A ydych chi’n gwybod a ddarperir y driniaeth arfaethedig o dan y GIG neu’n breifat?
- A ydych chi’n gwybod y gost debygol? Os nad oes rhestr brisiau'n cael ei dangos yn y practis, gallwch chi ofyn am weld un.
- A ydych chi’n deall beth sydd ynghlwm â’r driniaeth arfaethedig? Gofynnwch am gynllun triniaeth ysgrifenedig, pe bai hynny’n ddefnyddiol i chi.
- A yw eich deintydd wedi dweud wrthych am opsiynau triniaeth eraill?
- A oes gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus?
- Os oes gennych unrhyw bryderon, dylech chi ofyn i’ch gweithiwr deintyddol proffesiynol am ragor o wybodaeth.
Fel rhan o’n hymrwymiad, cynhyrchwyd rhai cyhoeddiadau GDC yn Gymraeg. Os bydd arnoch angen cyfieithiadau o’n taflenni gwybodaeth gyhoeddus (a restrir isod) mae croeso i chi anfon e-bost atom: communications@gdc-uk.org nu ffoniwch ni ar 020 7887 3800.
Bydd y cyhoeddiadau canlynol ar gael yn Gymraeg:
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
- ‘Licensed to practise’
- ‘Who we are and what we do’;
Gallwch chi ymweld â ni yn:
37 Wimpole Street
Llundain
W1G 8DQ
Cliciwch yma i weld ble rydym gan ddefnyddio Streetmap.co.uk.
Cysylltwch â ni
Ffôn: +44 (0) 20 7887 3800
Ffacs: +44 (0) 20 7224 3294
Minicom: 18001 020 7887 3800 (drwy TypeTalk)