Fel claf, rydych angen gallu ymddiried yn y gweithwyr proffesiynol sy’n darparu gofal deintyddol i chi. Rydych angen gwybod eu bod nhw’n bodloni safonau proffesiynol. Ac, os aiff rhywbeth o’i le a’ch bod yn anfodlon â’r gofal deintyddol a gawsoch, rydych angen gwybod fod yna rywun yno i helpu. Mae’r dudalen hon yn egluro beth mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn ei wneud i roi tawelwch meddwl i chi am eich gofal deintyddol.
Ein cofrestri
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r gweithwyr deintyddol canlynol gofrestru gyda ni:
- Deintyddion
- Technegwyr deintyddol clinigol
- Hylenyddion deintyddol
- Technegwyr deintyddol
- Therapyddion deintyddol
- Nyrsys deintyddol
- Therapyddion orthodontig
I ymuno â’n cofrestri, mae angen i’r gweithwyr proffesiynol hyn brofi eu bod wedi’u hyfforddi ac yn gymwys, a bod ganddynt gymeriad da. I chwilio am eich gweithiwr deintyddol proffesiynol chi ar ein cofrestri, cliciwch ar y botwm ‘search our registers’ ar frig y dudalen hon, neu cysylltwch â ni.
Mae rhai deintyddion sydd wedi cael hyfforddiant neu brofiad arbennig ar ein Rhestrau Arbenigol hefyd ac yn gallu galw eu hunain yn ‘arbenigwr’. Mae’n rhaid iddynt ddangos i ni sut maen nhw’n gymwys i ddefnyddio’r teitl hwnnw cyn y gallant ymuno â’r rhestri hyn. Efallai y bydd deintyddion eraill yn gweithio mewn meysydd deintyddol penodol (er enghraifft, orthodonteg) ond mae’n rhaid iddynt fod ar y rhestri hyn cyn gallu galw eu hunain yn arbenigwyr. Gallwch weld pa ddeintyddion sy’n arbenigwyr ar y wefan neu trwy gysylltu â ni.
Cynnal safonau uchel
Fel gweithwyr proffesiynol sydd â chryn gyfrifoldeb ac y mae pobl yn ymddiried ynddynt, mae disgwyl i’ch deintydd ac aelodau eraill o’r tîm sy’n darparu gofal deintyddol i chi gynnal safonau ymddygiad uchel, ar lefel broffesiynol a phersonol. Mae hyn yn amod ar gyfer parhau i fod yn gofrestredig gyda ni.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr deintyddol:
- roi eich buddiannau chi yn gyntaf a gweithredu i’ch diogelu chi;
- parchu eich urddas a’ch dewisiadau;
- cadw unrhyw wybodaeth amdanoch chi yn gyfrinachol;
- cydweithredu gydag aelodau eraill y tîm deintyddol a chydweithwyr eraill ym maes gofal iechyd;
- cynnal eu gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol; a
- bod yn ddibynadwy.
Diweddaru sgiliau a gwybodaeth
Mae’n ddyletswydd ar bob gweithiwr deintyddol proffesiynol i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf gydol eu gyrfa. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid iddynt gwblhau rhywfaint o ddatblygiad proffesiynol parhaus bob pum mlynedd i aros ar ein cofrestri. Gall hyn olygu, er enghraifft, mynd ar gyrsiau gloywi ar y technegau diweddaraf ar gyfer sterileiddio offer deintyddol neu ddysgu am ddeunyddiau deintyddol newydd.
Eich helpu os yw pethau’n mynd o chwith
Mae’r rhan fwyaf o weithwyr deintyddol proffesiynol yn bobl fedrus a chydwybodol y gallwch ymddiried ynddynt. Ond os nad ydych chi’n hapus gyda’r gofal deintyddol a gawsoch, sut allwch chi fynegi’ch pryderon?
Fel arfer rydym yn argymell y dylch geisio datrys y broblem yn lleol yn gyntaf – dylai bod gan y lle y cawsoch eich triniaeth weithdrefn gwyno fewnol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael i chi, yn cynnwys sut y gallwn ni eich helpu, ar y wefan hon. Os ydych yn credu bod sgiliau, iechyd neu ymddygiad gweithiwr deintyddol proffesiynol yn codi pryderon o ran diogelwch cleifion, neu eu bod wedi methu’n llwyr â chyrraedd y safonau disgwyliedig, dylech gysylltu â ni. Byddwn yn dweud wrthych chi a allwn ni ymchwilio i’r mater ai peidio a pha gamau y gallwn ni eu cymryd. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwn atal pobl rhag gweithio, neu gyfyngu eu gwaith, os oes angen.
Eich hawliau
Cyn i chi gytuno i unrhyw driniaeth ddeintyddol, dylech ystyried y cwestiynau hyn:
- Ydych chi’n gwybod a fydd y driniaeth y byddwch yn ei derbyn yn cael ei darparu o dan y GIG neu’n breifat?
- Ydych chi’n gwybod beth yw’r gost debygol? Os nad oes rhestr brisiau’n cael ei harddangos yn y practis, gofynnwch am weld un.
- Ydych chi’n deall beth yw’r driniaeth y byddwch chi’n ei derbyn? Gofynnwch am gynllun triniaeth ysgrifenedig, os ydych o’r farn y byddai hynny’n ddefnyddiol.
- Ydy’ch deintydd wedi sôn wrthych chi am fathau eraill o driniaeth?
- Ydych chi wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad deallus?
- Os oes gennych unrhyw bryderon, dylech ofyn i’ch gweithiwr deintyddol proffesiynol am ragor o wybodaeth.
- Fel rhan o’n hymrwymiad, paratowyd fersiynau Cymraeg o’r cyhoeddiadau canlynol ar gyfer y cyhoedd:
Cysylltu â ni
Os oes angen rhagor o wybodaeth yn Gymraeg arnoch chi, anfonwch e-bost at information@gdc-uk.org or neu ffoniwch ni ar 0845 222 4141 (cost galwad leol).
Ffacs: 020 7224 3294
Minicom: 18001 020 7887 3800 (trwy TypeTalk)
Gallwch ymweld â ni yn:
37 Wimpole Street
Llundain
W1G 8DQ
Cliciwch yma i ddod o hyd i ni ar Streetmap.co.uk.